BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Moneyworks Cymru

small business owner

Gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol ariannol mwy disglair i weithwyr Cymru

Ydych chi'n chwilio am ffordd i gefnogi eich gweithwyr a'ch busnes drwy flaenoriaethu lles ariannol y gweithlu? Ydych chi am leddfu pryderon ariannol a gwella lles, sy’n arwain at weithwyr hapusach a gwell cynhyrchiant yn y pen draw? Beth am ystyried dod yn Bartner Cyflogres?  

Pryderon ariannol yw’r prif achos o straen ymhlith pobl yn y DU, felly gall cynllun moesegol ar gyfer benthyciadau drwy’r gyflogres helpu i hybu cadernid ariannol staff a lleihau’r straen. Mae benthyciadau drwy’r gyflogres yn helpu cyflogwyr i gynyddu eu cynhyrchiant, sydd o fudd i'r gymuned ac i economi'r DU hefyd. Gallwch weithio gyda gweithwyr Cymru i greu dyfodol ariannol mwy disglair iddynt ar y cyd â sefydliadau nid-er-elw Moneyworks Cymru.

Mae manteision i gyflogwyr ddod yn bartner – gall y cynllun moesegol ar gyfer benthyciadau drwy’r gyflogres wella lles ariannol gweithwyr, cymunedau a sefydliadau yng Nghymru. Mae Moneyworks Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng rhai o gwmnïau cydweithredol ariannol mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn gweithio gyda sefydliadau mawr a bach mewn ffordd ddiogel a di-straen i chi a’ch staff. 

Bydd Moneyworks Cymru yn cynnig help i fusnesau dros y misoedd nesaf i gryfhau cadernid ariannol y gweithlu a gwella lles ariannol pobl. Trwy weithio i chi, a’i gwneud yn hawdd i chi gychwyn ar y broses, mae dros 150+ o sefydliadau yng Nghymru eisoes yn bartneriaid – cysylltwch yn uniongyrchol â Moneyworks Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.