BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mwy o fusnesau i gael eu categoreiddio’n fusnesau bach

Bydd miloedd o fusnesau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU yn cael eu rhyddhau o ofynion adrodd a rheoliadau eraill yn y dyfodol. 

Ar hyn o bryd, tybir bod busnesau bach wedi cael eu heithrio o reoliadau penodol. Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau canolig eu maint - y rheiny sydd â rhwng 50 a 249 o weithwyr - yn dal i ddweud eu bod yn treulio dros 22 o ddiwrnodau staff y mis ar gyfartaledd yn delio â rheoleiddio, ac mae dros hanner o’r holl fusnesau yn ystyried bod rheoleiddio yn faich ar eu gweithrediad [source].

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu'r eithriadau hyn i fusnesau sydd â llai na 500 o weithwyr ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol a rheoliadau a adolygwyd.

Bydd yr eithriad yn cael ei gymhwyso mewn ffordd gymesur i sicrhau y bydd hawliau gweithwyr a safonau eraill yn cael eu diogelu, gan leihau'r baich ar yr un pryd ar gyfer busnesau sy’n tyfu.

Yn aml, caniateir eithriadau rheoleiddiol ar gyfer BBaChau, y mae'r UE yn eu diffinio fel busnes â llai na 250 o weithwyr. 

Bydd y trothwy newydd yn weithredol o 3 Hydref 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/news/red-tape-cut-for-thousands-of-growing-businesses 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.