BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar.

Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau. Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth.

Bwriad y newidiadau treth, a fydd mewn grym o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yw datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu’n rhedeg busnesau. Mae'r newidiadau'n dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd fel rhan o fusnes llety gwyliau dilys.

Mae'r meini prawf ar gyfer penderfynu bod llety hunanddarpar yn atebol i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor yn cael eu cynyddu. Yn hytrach na chael ei osod am o leiaf 70 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, bydd gofyn i’r eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod.

Bydd y newid a gyhoeddir heddiw (11 Tachwedd 2022) yn golygu y bydd dau gategori arall o eiddo yn cael eu heithrio o'r premiymau treth gyngor os nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf gosod mwyach. Bydd hyn yn berthnasol i bob eiddo sy'n cael ei gyfyngu gan amodau cynllunio sy'n golygu mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio, neu sy’n ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel prif breswylfa rhywun.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.