BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle

Adnoddau ac arweiniad i helpu pobl broffesiynol i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle.

Rhaid i sefydliadau gamu i'r adwy a helpu i ddileu rhagfarn ac adeiladu diwylliannau amrywiol a chefnogol o barch a thegwch i bawb. Mae Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn parhau i ddatblygu cynnwys ymarferol i helpu pobl broffesiynol i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mae'r canllawiau’n cynnwys: 

  • Adrodd am gyflog ethnigrwydd: canllaw i gyflogwyr y DU
  • Sut i siarad am hil yn y gwaith
  • Datblygu strategaeth gwrth-hiliaeth
  • Canllaw gwrth-hiliaeth i reolwyr llinell

Mae fideos, gweminarau a phodlediadau hefyd y gallwch eu cyrchu.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.cipd.co.uk/knowledge/tackling-racism-workplace
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.