BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynd i'r afael â thlodi mewn gwaith

Gall gwaith – a dylai gwaith – fod yn llwybr dibynadwy allan o dlodi. Ond gydag un o bob wyth o weithwyr yn y DU yn byw mewn tlodi, a chostau byw yn codi, gallai canran o'ch gweithlu fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Mae tlodi yn effeithio ar bobl yn wahanol, ac nid yw bob amser yn hawdd i gyflogwyr sylwi arno. Mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) wedi ymuno â Sefydliad Joseph Rowntree  i godi ymwybyddiaeth o dlodi mewn gwaith a'ch annog chi, fel cyflogwr, i helpu ryddhau gafael tlodi. 

Dysgwch am:

  • Beth yw tlodi mewn gwaith?
  • Sut beth yw byw a gweithio mewn tlodi?
  • Sut gallwch chi wneud gwaith yn llwybr mwy dibynadwy allan o dlodi

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.cipd.co.uk/knowledge/culture/well-being/employee-financial-well-being/in-work-poverty 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.