Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ymddygiad digroeso o natur rywiol sy'n treisio urddas gweithiwr neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu gas. Mae'n cael ei gydnabod o dan nifer o gytundebau a deddfau rhyngwladol fel gwahaniaethu ar sail rhyw ac mae'n rhaid cael gwared ag ef wrth greu cymdeithasau a gweithleoedd sy’n gyfartal o ran rhywedd.
Mewn ymdrech pedair cenedl i gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle ar draws y DU, mae Chwarae Teg, Fawcett Society, WRDA a Close the Gap wedi cyfuno i greu ymgyrch DU gyfan dros newid.
Mae pecyn cymorth o adnoddau sy'n canolbwyntio ar y cyflogwr wedi'i greu, gan gefnogi cyflogwyr i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hymdrechion tuag at gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Bydd y pecyn cymorth yn:
- Helpu cyflogwyr i ddeall beth yw aflonyddu rhywiol
- Rhoi hyder a sgiliau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith
- Datblygu polisïau gwrth-aflonyddu rhywiol annibynnol
- Creu diwylliannau sy'n rhydd o aflonyddu yn eu sefydliadau
Lawrlwythwch y pecyn cymorth: ROSA – Tackling sexual harassment in the workplace toolkit (office.com)