BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau o ran Cyflogau yng Nghymru - Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol

Mae Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn y Gwaith yn falch o gynnal y drafodaeth hon ar ddull Cymru o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle. 

Drwy ganolbwyntio ar gyflog cyfartal a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bydd y digwyddiad hwn yn gosod dull penodol Cymru o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle yng nghyd-destun deddfwriaethol a pholisi'r DU - gan archwilio sut y gall gwersi o'r gorffennol lywio dulliau gweithredu yn y dyfodol.  

Gan edrych tua'r dyfodol a bwriad Llywodraeth Cymru i adfywio Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru a nodi sut i gyrraedd y garreg filltir genedlaethol newydd i fynd i'r afael â 'gwahaniaethau' cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd, bydd y trafodaethau'n canolbwyntio ar sut i gau'r 'bwlch gweithredu' rhwng uchelgais a chanlyniadau. 

Cynhelir y digwyddiad ar-lein am ddim ar 14 Mehefin rhwng 9:15am a 10:45am. 
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Eventbrite  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.