BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynd Rownd mewn Cylchoedd? Cyflwyniad i Gylchogrwydd ar gyfer Busnesau Ffasiwn a Thecstilau

‘Mae 'cylchogrwydd' neu ‘circularity’ yn dod yn air poblogaidd yn y diwydiant ffasiwn. Ond beth mae'n ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau? Sut mae cylchogrwydd yn cyd-fynd â sgyrsiau ehangach am fusnesau cynaliadwy a chyfrifol?

Ymunwch ag arbenigwyr o dîm Tecstilau 2030 WRAP mewn gweminar sy'n egluro beth mae cylchogrwydd yn ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau, gan gynnwys:

  • Pwysigrwydd cylchogrwydd wrth ddatblygu strategaeth gynaliadwyedd gadarn
  • Sut mae cylchogrwydd yn allweddol i gyflawni sero-net
  • Camau y gallwch eu cymryd i ymgorffori cylchogrwydd yn eich busnes
  • Pwysigrwydd cydweithio i gyflymu newid ledled y diwydiant

Cynhelir y weminar am ddim rhwng 2pm a 3pm ar 6 Hydref 2021.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Eventbrite.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.