BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Gall Mynediad at Waith eich helpu chi i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol.

Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad at Waith, fe allwch wneud cais am:

  • grant i’ch helpu dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith
  • cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith
  • arian i dalu ar gyfer cefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliadau gwaith

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English), Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a fformat Hawdd ei Ddarllen.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/mynediad-at-waith

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.