BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynediad wedi’i wrthod: Profiadau pobl hŷn o eithrio digidol yng Nghymru

senior person trying to use a laptop

Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol ac yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i chwarae rhan fwy fyth yn ein bywydau bob dydd.

Dyna’r rhybudd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth iddi gyhoeddi adroddiad newydd, ‘Mynediad wedi’i wrthod: Profiadau pobl hŷn o eithrio digidol yng Nghymru’.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn pryderu bod hawliau pobl hŷn i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, sydd wedi’u hymgorffori mewn amrywiaeth o offerynnau hawliau dynol a deddfwriaeth arall, yn cael eu tanseilio gan ddewisiadau amgen all-lein o ansawdd gwael neu wedi’u diddymu, megis apwyntiadau wyneb yn wyneb, llinellau cymorth ffôn neu gopïau papur o lyfrynnau gwybodaeth.

Mae galwadau’r Comisiynydd am weithredu gan gyrff cyhoeddus yn cynnwys sicrhau bod dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (a deddfwriaeth berthnasol arall) yn cael eu cyflawni, ochr yn ochr â darparu cymorth ymarferol i gael pobl ar-lein wrth barhau i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol. Yn ogystal, mae’n galw am i eithrio digidol fod yn ganolog i drafodaethau’n ymwneud â dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac am i leisiau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael eu clywed a’r ymateb iddynt fod yn fwy effeithiol.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar gwmnïau preifat i gymryd camau i sicrhau bod cwsmeriaid nad ydynt ar-lein yn cael yr un lefel o wasanaeth â’r rhai sydd, a bod cwsmeriaid sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, neu sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus, yn cael cynnig cymorth, gan gynnwys cymorth gyda chostau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (comisiynyddph.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.