BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

NatWest Business Builder

Mae Business Builder NatWest bellach yn rhaglen cwbl ddigidol ar gyfer y garfan newydd o fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil coronafeirws.

Mae Business Builder yn cefnogi entrepreneuriaid sy’n cychwyn arni ac yn eu helpu i brofi a dilysu eu model busnes, datblygu eu sail busnes a chreu sylfeini cadarn fel y gallant dyfu.

Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfuniad o ddysgu digidol, cymuned, mynediad at rwydweithiau a dysgu cymheiriaid i fusnesau newydd.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Business Builder, cewch fynediad at y modiwl cyflwyno. Mae angen i chi gwblhau’r adran hon yn gyntaf cyn cael mynediad llawn at ddeunydd ar-lein - yna bydd gennych ryddid i ddewis a dethol y modiwlau dysgu sy’n gweithio i chi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan NatWest Business Builder.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.