Cyflwynwyd Treth Pecynnau Plastig ar 1 Ebrill 2022. Os ydych chi’n gweithgynhyrchu neu’n mewnforio 10 tunnell fetrig neu fwy o becynnau plastig o fewn cyfnod 12 mis, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig ar GOV.UK, hyd yn oed os yw eich pecynnau’n cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi’i ailgylchu.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth os bydd y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych chi’n disgwyl gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell fertig neu fwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf (y prawf ‘edrych tua’r dyfodol’)
- rydych chi wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell fetrig neu fwy o becynnau plastig ers 1 Ebrill 2022 (y prawf ‘edrych yn ôl’)
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y dreth, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen i CThEF 4 gwaith y flwyddyn.
Rhaid i’ch ffurflen ymestyn dros gyfnod cyfrifyddu. Dyma gyfnodau cyfrifyddu 2023 i 2024:
- 1 Ebrill tan 30 Mehefin 2023
- 1 Gorffennaf tan 30 Medi 2023
- 1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2023
- 1 Ionawr tan 31 Mawrth 2024
Rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis fan bellaf yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu rydych chi’n rhoi gwybod amdano.
Dyma’r dyddiadau olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni a thalu unrhyw dreth ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu 2023 i 2024:
- 1 Ebrill tan 30 Mehefin 2023 – dydd Llun 31 Gorffennaf 2023 yw’r dyddiad olaf
- 1 Gorffennaf tan 30 Medi 2023 – dydd Mawrth 31 Hydref 2023 yw’r dyddiad olaf
- 1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2023 – dydd Mercher 31 Ionawr 2024 yw’r dyddiad olaf
- 1 Ionawr tan 31 Mawrth 2024 – dydd Mawrth 30 Ebrill 2024 yw’r dyddiad olaf
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol: