BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newid i sut mae elw trethadwy yn cael ei gyfrifo ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau

Mae'r ffordd y mae CThEF yn asesu eich elw os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n bartneriaeth sy'n defnyddio dyddiad cyfrifo rhwng 6 Ebrill a 30 Mawrth yn newid. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar gwmnïau.

Eich dyddiad cyfrifo yw diwrnod olaf y cyfnod rydych yn paratoi eich cyfrifon ar ei gyfer. Chi sy'n dewis eich dyddiad cyfrifo a byddwch fel arfer yn gwneud eich cyfrifon hyd at y dyddiad hwnnw bob blwyddyn.

Os yw eich dyddiad cyfrifo rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill, ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi.

O 6 Ebrill 2024, byddwch yn cael eich asesu ar eich elw ar gyfer pob blwyddyn dreth sy'n rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill. Bydd y newid hwn yn effeithio ar sut rydych yn llenwi'ch ffurflen dreth os ydych yn defnyddio dyddiad cyfrifo rhwng 6 Ebrill a 30 Mawrth.

Bydd blwyddyn bontio o 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024, er mwyn caniatáu i unrhyw ryddhad gorgyffwrdd y gall fod yn ddyledus i chi gael ei ddefnyddio yn erbyn eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol How HMRC assesses profits for some sole traders and partnerships to change - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.