BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newid y Ffordd yr Ydym yn Darparu Gofal mewn Argyfwng

Mae cyfle cyffrous i weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Byrddau Iechyd yng Nghymru i leihau’r galw digynsail ar ambiwlansys a gwasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ledled Cymru.  Mae cleifion yn aros yn hirach nag y dylent am ymateb ambiwlans a phan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty (Adran Achosion Brys), gallant dreulio cryn dipyn o amser yn yr ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i dimau clinigol yr Adran Achosion Brys.

Hoffai Ganolfan Ragoriaeth SBRI allu trawsnewid y ffordd y mae gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael ei ddarparu, gan geisio cefnogi uchelgais strategol WAST i ofalu am fwy o gleifion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol, gan leihau’n ddiogel nifer y cleifion sydd angen eu cludo i’r ysbyty.

Strwythur Camau'r Her 

Cam 1: Datblygiad – O gyfanswm o £225,000, disgwyliwn ariannu hyd at 3 phrosiect hyd at werth o £75,000 (gan gynnwys TAW) yr un.

Cam 2: Profi - Bydd y Cam hwn yn golygu cynnal prawf cadarn mewn amgylchedd bywyd go iawn ar gyfer hyd at 3 o'r datrysiadau Cam 1 llwyddiannus o gyfanswm cronfa o hyd at £800,000. Disgwyliwn ariannu hyd at 3 phrosiect hyd at £265,000 (gan gynnwys TAW) yr un.

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar 23 Chwefror 2023. 

SBRI Briefing Event: Changing the Way We Deliver Emergency Care Tickets, Thu 23 Feb 2023 at 10:00 | Eventbrite

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12pm ar 17 Mawrth 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Changing the Way We Deliver Emergency Care | SBRI Centre of Excellence (simplydo.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.