BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn

Cadarnhaodd y Prif Weinidog na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.

Bydd y newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn yn dod i rym o 7 Awst 2021, sef yr un diwrnod ag y disgwylir i Gymru symud i lefel rhybudd sero, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.

Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed hefyd yn cael eu heithrio rhag yr angen i hunanynysu os cânt eu nodi hefyd fel cysylltiadau agos ag achos positif.

Ond mae'n rhaid i bawb sy'n profi'n bositif am y coronafeirws neu sydd â symptomau barhau i ynysu am 10 diwrnod, p'un a ydynt wedi cael eu brechu ai peidio.

Bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn defnyddio Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru i nodi oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn ac na fydd yn ofynnol mwyach iddynt hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos.

O 7 Awst 2021, yn hytrach na rhoi cyfarwyddyd i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn i ynysu, bydd swyddogion a chynghorwyr olrhain cysylltiadau yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ar sut i amddiffyn eu hunain ac aros yn ddiogel.

Bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn darparu gwasanaeth “rhybuddio a hysbysu” i bob oedolyn a’r rhai o dan 18 oed, sydd wedi'u brechu'n llawn, y nodir eu bod yn gysylltiadau agos.

Bydd rhai mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, yn enwedig staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys asesiad risg ar gyfer staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal a phrofion llif unffordd dyddiol. Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael eu cynghori’n gryf i beidio ag ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal am 10 diwrnod.

Bydd pawb a nodwyd fel cyswllt ag achos positif yn parhau i gael eu cynghori i gael prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, p'un a ydynt wedi'u brechu'n llawn ai peidio.

Bydd y newidiadau'n helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol a achoswyd gan y cynnydd cyflym diweddar mewn achosion o COVID, yn sgil yr amrywiolyn delta dros y ddau fis diwethaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.