BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau CJRS i gyflogwyr

O 1 Awst 2020 bydd y Cynllun Cadw Swyddi trwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn parhau i ddarparu grantiau i weithwyr ar ffyrlo, ond ni fydd yn ariannu cyfraniadau Yswiriant Gwladol na phensiwn cyflogwyr mwyach. Bellach, bydd rhaid i chi ddefnyddio’ch adnoddau eich hunain i’w talu ar ran pob gweithiwr, boed ar ffyrlo neu beidio.

Y camau allweddol i gyflogwyr eu cadw mewn cof yw:

  • gofalu bod eich data yn gywir – mae’n bwysig darparu’r data angenrheidiol i brosesu’ch hawliad – gall hawliadau anghyflawn neu anghywir olygu bod eich grant mewn perygl neu oedi cyn talu grant
  • rhifau YG – mae angen i chi ddarparu rhif YG i bob gweithiwr fel rhan o’ch hawliad CJRS
  • hawlio gormod ar gam – os ydych chi wedi hawlio gormod ar gyfer grant CJRS a heb ei dalu’n ôl, rhaid i chi roi gwybod i CThEM a’i ad-dalu. Os cawsoch chi fwy o grant na’r swm y mae gennych hawl i’ gael, gallwch roi gwybod i CThEM fel rhan o’ch hawliad ar-lein nesaf heb fod angen ffonio – bydd y system yn eich cymell i ychwanegu manylion os cawsoch ormod o grant
  • os ydych chi’n derbyn gormod ac nad ydych yn bwriadu gwneud hawliadau pellach, neu’ch bod wedi hawlio llai na’r hyn yr oedd gennych hawl i’w gael – cysylltwch â CThEM.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.