Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r broses ar gyfer cwblhau archwiliadau hawl i weithio ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir wedi newid.
Ni all cyflogwyr dderbyn pasbortau neu gardiau adnabod yr UE bellach fel tystiolaeth ddilys o hawl i weithio, ac eithrio ar gyfer rhai dinasyddion o Iwerddon. Yn hytrach, mae angen i chi wirio hawl ymgeisydd am swydd i weithio ar-lein gan ddefnyddio cod rhannu a’u dyddiad geni. Does dim angen i chi ôl-wirio statws unrhyw ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir rydych chi wedi’u cyflogi cyn 1 Gorffennaf 2021.
Am ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn, gan gynnwys beth i’w wneud os ydych chi’n dod ar draws dinesydd o’r UE yn eich gweithlu nad yw wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn y dyddiad cau ac nad oes ganddo unrhyw ffurf arall o hawl i aros yn y DU, darllenwch y canllawiau hyn.