BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i brofion a chartrefi gofal wrth inni gyd ddysgu byw’n ddiogel gyda coronafeirws

Heddiw (28 Mawrth), mae amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu Cymru, fel rhan o gynlluniau ehangach i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig.

Hefyd heddiw (28 March), mae Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol newydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwn yn nodi trefniadau newydd ar gyfer cartrefi gofal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Daw’r newidiadau wrth i Gymru gymryd camau gofalus pellach heddiw i lacio rhai o’r mesurau diogelu cyfreithiol sydd wedi bod mewn grym am y rhan fwyaf o’r pandemig – ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol mwyach mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu ar ôl prawf positif yn dod i ben.

Serch hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori’n gryf fod pawb yn hunanynysu os oes ganddynt symptomau COVID neu os ydynt yn profi’n bositif. Bydd y taliad hunanynysu yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Bydd canllawiau’n cael eu cryfhau i gynghori pobl i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob lle cyhoeddus, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, i helpu i ddiogelu Cymru.

Diben y newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yw diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed, gan leihau eu risg o gael eu heintio, a sicrhau bod capasiti profi yn cael ei gynnal i fonitro brigiadau o achosion a chanfod unrhyw amrywiolion newydd.

Mae’r prif newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn cynnwys:

  • heddiw (28 Mawrth) ymlaen, bydd pobl yn cael eu cynghori’n gryf i hunanynysu os oes ganddynt Covid. Bydd taliadau cymorth hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
  • Dydd Mercher (30 Mawrth) yw’r diwrnod olaf y gall y cyhoedd archebu profion PCR os oes ganddynt symptomau.
  • ddydd Iau (31 Mawrth) ymlaen, bydd pob safle profi PCR yng Nghymru yn cau.
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi pobl asymptomatig yn rheolaidd mewn gweithleoedd yn dod i ben ddydd Iau (31 Mawrth), ac eithrio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi aelodau o’r cyhoedd sy’n asymptomatig yn rheolaidd yn dod i ben ddydd Iau (31 Mawrth).
  • ddydd Gwener (1 Ebrill) ymlaen, os oes gennych symptomau COVID dylech ddefnyddio prawf llif unffordd i weld a oes gennych COVID. Gellir archebu’r rhain yn gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119. Os byddwch yn profi’n bositif, dylech roi gwybod am eich canlyniad yn www.gov.uk/cofnodi-canlyniad-covid19 ac ynysu am o leiaf bum diwrnod llawn a chymryd profion llif unffordd ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech (os yw’r ddau’n negatif) cyn gorffen eich cyfnod ynysu.
  • ddydd Gwener (1 Ebrill) ymlaen, dim ond pobl sy’n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 fydd yn gallu archebu profion PCR i’w gwneud gartref.
  • Bydd profion asymptomatig rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant ac addysg, ac eithrio darpariaeth addysg arbennig, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor (8 Ebrill).

Am ragor o wybodaeth ewch i Newidiadau i brofion a chartrefi gofal wrth inni gyd ddysgu byw’n ddiogel gyda coronafeirws | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.