BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i deithio rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys pellach i ychwanegu 10 gwlad arall yn neheudir Affrica at y rhestr goch ar gyfer teithio wedi i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws gael ei nodi. Mae’n bosibl y gall yr amrywiolyn hwn osgoi’r amddiffyniad a ddarperir gan frechlynnau.

Mae’r amrywiolyn Omnicron (a elwir hefyd yn B.1.1.529) wedi’i gysylltu â Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia, Zimbabwe ac Angola, Malawi, Mozambique a Zambia. Mae’r gwledydd hyn wedi’u hychwanegu at y rhestr goch.

Bydd hyn yn golygu na fydd teithwyr o’r lleoedd hyn yn cael dod i mewn i Gymru ond bod rhaid iddynt gyrraedd drwy borth mynediad yn Lloegr neu’r Alban a mynd i gyfleuster cwarantin wedi’i reoli am 10 diwrnod. Rhaid iddynt hefyd gymryd profion PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyflwyno mesurau dros dro a rhagofalus i atal amrywiolyn Omicron rhag lledaenu yn y DU o 4am ddydd Mawrth 30 Tachwedd 2021.

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.