Bydd miliynau o weithwyr yn gallu gwneud cais ar gyfer gweithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth, o dan gynlluniau newydd Llywodraeth y DU i wneud gweithio hyblyg yn arferol.
Nid yw gweithio hyblyg yn golygu cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa yn unig – gall olygu bod gweithwyr yn gwneud defnydd o rannu swyddi, amser hyblyg, a gweithio oriau cywasgedig, blynyddol, neu gyfnodol.
Bydd gweithwyr ar gontractau sydd ag incwm wythnosol gwarantedig ar y Terfyn Enillion Isaf neu’n is hefyd yn cael eu diogelu rhag cymalau cynwysoldeb gorfodol, sy'n atal gweithwyr rhag cael nifer o gyflogwyr.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd, a gefnogir yn ymateb Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriad Making flexible working the default, hefyd yn dileu'r gofyniad i weithwyr nodi effeithiau eu ceisiadau gweithio hyblyg i gyflogwyr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Millions of Britons to be able to request flexible working on day one of employment - GOV.UK (www.gov.uk)