BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i gyfraith cwmnïau'r DU: rheolau newydd ar gyfer enwau cwmnïau

small business owner looking at a

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal gwiriadau cryfach ar enwau cwmnïau a allai roi argraff ffug neu gamarweiniol i’r cyhoedd ac i wella cywirdeb ac ansawdd y data sydd ganddynt a helpu i fynd i’r afael â chamddefnyddio enwau cwmnïau.

Gall Tŷ’r Cwmnïau bellach wrthod cais i gofrestru enw os oes ganddynt achos i gredu:

  • mai bwriad yr enw yw hwyluso twyll
  • bod yr enw yn cynnwys cod cyfrifiadurol
  • bod yr enw’n debygol o roi’r camargraff bod y cwmni’n gysylltiedig â llywodraeth dramor neu sefydliad rhyngwladol y mae ei aelodau’n cynnwys dwy neu ragor o wledydd neu diriogaethau (neu eu llywodraethau)

Gall Tŷ’r Cwmnïau hefyd roi cyfarwyddyd i gwmnïau newid eu henw. Os bydd cwmni’n methu â newid ei enw o fewn 28 diwrnod, gall Tŷ’r Cwmnïau bellach bennu enw newydd ar gyfer y cwmni, er enghraifft, newid enw’r cwmni i rif cofrestredig y cwmni.

Os na fydd cwmni yn ymateb i gyfarwyddyd i newid enw’r cwmni o fewn 28 diwrnod, byddant yn cyflawni trosedd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Changes at a glance - Changes to UK company law Companies House changes


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.