BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i gyfreithiau gweithio hyblyg

group of employees having a discussion

A yw eich busnes yn cyflogi pobl? Os ‘ydyw’ yw’r ateb, bydd angen i chi newid y ffordd rydych chi’n ymdrin â cheisiadau am weithio’n hyblyg gan eich gweithwyr. Mae gan bob gweithiwr hawl gyfreithiol i wneud cais am weithio hyblyg – nid dim ond rhieni a gofalwyr.

Mae gweithio hyblyg yn galluogi cyfleoedd i weithio sy’n addas i anghenion y cyflogwr a’r gweithiwr.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd gweithwyr yn gallu gwneud cais statudol i wneud newidiadau parhaol i’w contract o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Mae hyn yn golygu y gallant, o’r diwrnod cyntaf, ofyn i gyflogwr am newidiadau o ran pa mor hir maen nhw’n gweithio, pryd ac ymhle.

Hefyd, bydd gweithwyr yn gallu gwneud dau gais o fewn unrhyw gyfnod deuddeg mis, yn hytrach na’r un cais presennol. 

Yn ogystal, fel cyflogwr, bydd angen i chi wneud penderfyniad am y cais o fewn deufis o’i gael. Ar hyn o bryd, mae gennych dri mis. 

Os nad ydych yn teimlo y gallwch dderbyn y cais, bydd angen i chi ymgynghori â’ch gweithiwr.

Bydd y newidiadau a gyflwynir ar 6 Ebrill hefyd yn golygu na fydd eich gweithiwr yn gorfod esbonio pa effaith, os o gwbl, y byddai’r cais am weithio’n hyblyg yn ei chael ar eich sefydliad a sut y gallai gael ei goresgyn. 

Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi ymdrin â’r ceisiadau hyn mewn modd rhesymol. Gallwch ond wrthod cais am un o wyth rheswm busnes. Edrychwch ar y rhesymau dros wrthod cais yma: Flexible working: After the application - GOV.UK

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Flexible Working - Help to Grow


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.