BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn dod i ben ar 31 Hydref 2020 ac mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud o fis Gorffennaf:

  • dechrau rhoi eich gweithwyr ar ffyrlo hyblyg o 1 Gorffennaf ymlaen. Gallwch benderfynu ar yr oriau a’r patrymau shifft y byddan nhw’n gweithio i fodloni anghenion eich busnes - byddwch yn talu eu cyflogau am yr amser y byddan nhw yn y gwaith a gallwch wneud cais am grant cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i dalu am unrhyw oriau arferol maen nhw’n gorfod bod ar ffyrlo, a gallwch gadw gweithwyr ar ffyrlo o hyd os oes angen i chi wneud hynny
  • hawlio am gyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Mehefin, erbyn 31 Gorffennaf – dyma’r dyddiad hwyraf y gallwch chi hawlio
  • hawlio am gyfnodau ffyrlo pellach yn ôl yr angen – y tro cyntaf y byddwch yn gallu hawlio am ddyddiau ym mis Gorffennaf fydd 1 Gorffennaf 2020.

O 1 Awst 2020, bydd lefel y grant yn cael ei ostwng bob mis.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.