Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn newid o 1 Hydref 2020.
Bydd Llywodraeth y DU yn talu 60% o gyflogau hyd at derfyn o £1,875 am yr oriau y mae’r gweithiwr ar ffyrlo.
Bydd cyflogwyr yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol seiliedig ar enillion a chyfraniadau pensiwn ac yn ychwanegu at gyflogau gweithwyr i sicrhau eu bod yn derbyn 80% o’u cyflogau gyda therfyn o £2,500 am yr amser y maent ar ffyrlo.
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn dod i ben ar 31 Hydref 2020.
Pan fydd y cynllun yn dod i ben ar 31 Hydref, mae’n rhaid i chi benderfynu naill ai:
- ddod â’ch gweithwyr yn ôl i’r gwaith ar eu horiau arferol
- lleihau oriau eich gweithwyr
- terfynu eu cyflogaeth (mae rheolau colli swydd arferol yn gymwys i weithwyr ar ffyrlo)
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.