Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r gofynion hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achosion COVID-19 positif.
Ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5-18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau, ni fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu os nodir eu bod yn gysylltiad agos ag achos COVID-19 positif. Yn hytrach, dylent gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod fel mesur rhagofal.
Dyma sut mae cael gafael ar brofion llif unffordd:
- eu casglu o fferyllfa neu fan casglu lleol: Chwiliwch am eich fferyllfa neu fan casglu agosaf a’r oriau agor (ewch i wefan nhs.uk)
- dan drefniadau sydd wedi’u cytuno gyda gweithleoedd a lleoliadau addysg
- drwy archebu profion ar-lein i’w dosbarthu i’ch cartref. Ewch i GOV.UK i archebu pecynnau profi cartref. Cewch archebu 1 pecyn profi cartref (yn cynnwys 7 prawf) ar y tro.
- Nid yw’r cyngor wedi newid ar gyfer plant o dan 5 oed – ni fydd angen iddyn nhw hunanynysu ac nid oes rhaid iddynt gymryd prawf PCR na phrofion llif unffordd.
Nid yw’r cyngor wedi newid chwaith ar gyfer cysylltiadau agos sydd heb eu brechu. Mae’n ofynnol iddyn nhw hunanynysu am 10 diwrnod ac fe’u cynghorir i gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif.
I ddarllen y datganiad llawn ewch i Llyw.Cymru