BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu

Ddydd Gwener 18 Mehefin 2021, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd.

Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa iechyd y cyhoedd yr wythnos hon, hanner ffordd drwy’r cylch tair wythnos presennol o reoliadau, ar ôl cyhoeddi y byddai’n symud fesul cam i lefel rhybudd un. Cafodd y rheolau ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn yr awyr agored eu llacio ar 7 Mehefin 2021.

Er na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r rheolau am gyfnod o bedair wythnos – caiff y rheoliadau eu hadolygu eto at 15 Gorffennaf 2021 – mae rhai diwygiadau technegol bach yn cael eu gwneud i reoliadau’r coronafeirws i sicrhau eu bod yn haws i’w deall ac yn haws i fusnesau eu rhoi ar waith.

Maent yn cynnwys:

  • Bydd nifer y bobl a gaiff fynd i dderbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, a drefnir gan fusnes mewn eiddo dan do sy’n cael ei reoleiddio, megis gwesty, yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.
  • Egluro y bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi bach ar lawr gwlad yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, fel tafarnau a chaffis.
  • Bydd hyd at 30 o blant ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen yn yr ysgol aros dros nos mewn canolfan breswyl addysg awyr agored.

Bydd digwyddiadau peilot yn y sector theatr, chwaraeon ac mewn sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.