A ydych yn mewnforio cynnyrch anifeiliaid drwy borthladdoedd Cymru? O’r 1 Ionawr ymlaen bydd y rheolau'n newid. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod ymlaen llaw i'ch mewnforion.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ofyniad o 1 Ionawr 2023 i o rag-hysbysu ar gyfer cynhyrchion IPAFFS sy'n tarddu o anifeiliaid a phlanhigion a chynnyrch planhigion sy'n cael eu rheoleiddio ac sy'n hysbysadwy, nad ydynt eisoes yn destun rhag-hysbysiad, sy'n cyrraedd o Iwerddon. Bydd rhag-hysbysu yn parhau yn ofynnol ar gyfer anifeiliaid byw, planhigion â blaenoriaeth uchel, bwyd risg uchel a bwyd anifeiliaid nad yw yn tarddu o anifeiliaid.
Bydd hyn yn golygu y bydd angen i fewnforwyr nwyddau sy'n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon nodi gwybodaeth gyfyngedig am eu llwythi yn y system IPAFFS ar-lein. Ni fydd angen unrhyw waith papur nac ardystiad.
Bydd mewnforwyr sy'n defnyddio porthladdoedd Cymru yn gyfarwydd â rhag-hysbysu gan iddynt baratoi ar ei gyfer ym mis Ionawr 2022 ac eto ym mis Gorffennaf 2022 er iddo gael ei ohirio ar fyr rybudd braidd.
Mae'r rhai sy'n mewnforio o gyfandir yr UE neu rHywle arall yn y byd eisoes yn rhoi gwybod ymlaen llaw am yr holl nwyddau SPS.
Bydd cyflwyno rhag-hysbysiad ar gyfer y nwyddau hyn yn darparu data werthfawr i swyddogion y llywodraeth ac awdurdodau gorfodi perthnasol, megis awdurdodau lleol.
Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid sicrhau bod isadeiledd y ffin ac adnoddau staffio yn briodol i ateb y galw disgwyliedig a darparu gwerth-am-arian i fewnforwyr, trethdalwyr a defnyddwyr.
Byddai Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i glywed eich barn am y newid hwn, gallwch weld y llythyr ymgynghori gan weinidogion Cymru Diwygiadau i reolau ynghylch gwiriadau iechydol a ffytoiechydol (SPS) mewn perthynas â mewnforion o nwyddau o’r UE sy’n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon | LLYW.CYMRU
Anfonwch e-bost at BorderInfrastructureProgramme@llyw.cymru gyda’ch ymateb erbyn 11 Tachwedd 2022.
Gall mewnforwyr sydd heb gofrestru ac sy’n gyfarwydd â’r system IPAFFS ar gyfer rhag-hysbysu ddilyn y canllawiau isod:
- Gall mewnforwyr, neu eu cyfryngwyr, gael mynediad at IPAFFS yma: Import of products, animals, food and feed system (IPAFFS) - GOV.UK (www.gov.uk)
- Trosolwg o’r broses gyffredinol: How to raise an importer notification using IPAFFS October 21 - YouTube
- Cofrestru ar gyfer IPAFFS: How to register for the Imports of Products, Animals, Food and Feed System (IPAFFS) - YouTube / How to Register on IPAFFS v 2.0.pdf (dropbox.com)
- Codi hysbysiad ar gyfer POAO: Video Guidance – How to raise a POAO Import Notification - YouTube / Importing Live Animals and Animal Products from the European Union into Great Britain - Dropbox Paper