Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored.
O ddydd Llun 3 Awst 2020 ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion mwyach, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith y grŵp oedran hwn.
Bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael ailagor dan do o ddydd Llun ymlaen, a hefyd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Newyddion