BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau treth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 1.25% am flwyddyn yn unig i weithwyr, cyflogwyr a’r hunangyflogedig o fis Ebrill 2022.

Bydd hyn yn berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gweithwyr a chyflogwyr), Dosbarth 1A a 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig). Ni fydd pobl hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu heffeithio gan newidiadau mis Ebrill 2022.

O fis Ebrill 2023, bydd Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd wedi’i glustnodi o 1.25% yn cael ei gyflwyno a fydd yn berthnasol i’r rhai sy’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gweithwyr a chyflogwyr), Dosbarth 1A a 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig) a bydd hefyd yn cael ei ymestyn i’r rhai dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd mewn gwaith. Pan ddaw’r ardoll newydd i rym, bydd cyfraddau Yswiriant Gwladol yn newid yn ôl i’r lefelau presennol.

Bydd yr ardoll hefyd yn berthnasol i unigolion hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth gydag incwm cyflogaeth neu elw o hunangyflogaeth sy’n uwch na £9,569.

Bydd yr ardoll yn cael ei weinyddu gan CThEM a’i gasglu drwy weithdrefnau adrodd a chasglu presennol ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol - Talu wrth Ennill a Hunanasesiad Treth Incwm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.