BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ni fydd £20 a £50 papur yn arian cyfreithlon ar ôl 30 Medi 2022

Bydd Banc Lloegr yn tynnu statws arian cyfreithlon yr £20 a’r £50 papur ar ôl 30 Medi 2022, ac yn annog unrhyw un sy’n meddu arnynt i’w gwario neu eu hadneuo yn eu banc neu Swyddfa’r Post.

Wrth iddyn nhw gael eu dychwelyd i Fanc Lloegr, maen nhw’n cael eu disodli gan bapur £20 polymer gyda darlun o J.M.W. Turner, a phapur £50 polymer gyda darlun o Alan Turing. Ar ôl 30 Medi 2022, y papurau polymer newydd fydd yr unig rai cyfreithlon.

Ar ôl 30 Medi 2022 bydd pobl â chyfrif banc yn y DU yn gallu adneuo unrhyw ddarnau £20 neu £50 papur sydd ganddynt yn eu cyfrifon. Gallai rhai Swyddfeydd Post hefyd dderbyn rhai wedi’u tynnu fel taliad am nwyddau a gwasanaethau neu fel blaendal i gyfrif sy’n cael ei ddefnyddio ganddyn nhw.

Bydd Banc Lloegr yn parhau i gyfnewid pob arian papur sydd wedi’i dynnu allan.

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Exchanging old banknotes.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.