BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Nid eich model busnes arferol!

Melyn Tregwynt Woollen Mill worker

Mae Llywodraeth Cymru yn dathlu dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru - gan gynnwys melin wlân uchel ei pharch - bron i ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl.

Heddiw, ar Ddiwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr (dydd Gwener 21 Mehefin 2024), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi cyrraedd ei nod o gael 74 o fusnesau yng Nghymru o dan reolaeth gweithwyr. Roedd y cyfanswm newydd hwn eisoes wedi tyfu o 37 yn 2021 i 63 y llynedd.

Gosodwyd targed 2026 gan y Gweinidog Economi blaenorol, Vaughan Gething yn 2022, law yn llaw ag ymrwymiad i gefnogi pryniant gan weithwyr a helpu i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig.

Mae gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a Busnes Cymru a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniant gan weithwyr, gyda chymorth pwrpasol wedi’i ariannu’n llawn ar gael i helpu perchnogion busnesau i benderfynu ai perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yw’r opsiwn priodol i’w busnes.

Daeth Melin Tregwynt o Sir Benfro yn eiddo i’r gweithwyr yn 2022, gan nodi pen-blwydd y busnes yn 110 mlwydd oed.

Cafodd y felin a'r siop deuluol ei throsglwyddo i'w 42 o weithwyr gan ei pherchnogion ar y pryd, Eifion ac Amanda Griffiths. Tad-cu Eifion a sefydlodd y busnes tecstilau yn 1912 ar ôl prynu'r felin.

Mae'r berchnogaeth wedi'i throsglwyddo trwy ymddiriedolaeth ac mae'n rhoi cyfran i bob gweithiwr yn nyfodol y busnes. Bydd hyn yn cadw'r wybodaeth a'r sgiliau traddodiadol a ddatblygwyd dros y ganrif ddiwethaf ers sefydlu'r cwmni.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Nid eich model busnes arferol! | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.