BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Nid Jyst i Fechgyn - Menywod ym maes Adeiladu

Mae menter Nid Jyst i Fechgyn Chwarae Teg wedi symud ar-lein dros dro, gan ddarparu gweminarau 1 awr yn rhad ac am ddim i ferched a menywod sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Ymunwch â'r trafodaethau gyda 4 menyw ysbrydoledig sy'n gweithio mewn amryw rolau ym maes adeiladu gyda chwmni VINCI Construction DU a fydd yn rhoi cipolwg ar eu gyrfaoedd hyd yma ac yn cynnig cyngor i'r rhai sydd â diddordeb mewn creu gyrfa mewn STEM. 

Bydd y weminar yn ysbrydoli menywod i gyflawni gyrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr iawn fel peirianwyr strwythurol, arbenigwyr adeiladu ac fel arweinwyr ym maes adeiladu. 
Hefyd gallwch:

  • Dysgu sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’  rhywun sy’n gweithio yn niwydiant STEM
  • Cael eich ysbrydoli gan eu llwybrau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
  • Cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r modelau rôl am eu gyrfaoedd.

Cynhelir y weminar ddydd Mercher 8 Medi 2021 rhwng 5pm a 6pm.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.