Horizon Europe yw rhaglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd sy’n werth £80bn+ dros 7 mlynedd (o 2021). Ei nod yw hybu rhagoriaeth ymchwil, meithrin arloesedd a mynd i’r afael â heriau byd-eang trwy brosiectau cydweithredol a chyfleoedd ariannu.
Bydd Innovate UK, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwyddoniaeth Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a rhwydweithio wyneb yn wyneb cyffrous ar 28 Ionawr 2025 yng Nghaerdydd.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu, cysylltu a thrafod cyfleoedd ymchwil ac arloesi cydweithredol Horizon Ewrop a all sbarduno eu prosiectau arloesol. Darganfyddwch sut mae Horizon Ewrop wedi trawsnewid syniadau yn brosiectau llwyddiannus ar draws gwahanol sectorau, a sut y gallai eich un chi fod nesaf. Cofrestrwch nawr.