BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Nodyn atgoffa pwysig ar newidiadau i’r cyfrif ar-lein TAW

O ddydd Llun, 15 Mai 2023, oni bai eich bod eisoes yn defnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), ni fyddwch yn gallu defnyddio eich cyfrif ar-lein TAW presennol mwyach i ffeilio eich ffurflenni TAW blynyddol. 

Mae hynny oherwydd, yn ôl y gyfraith, rhaid i bob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW bellach ddefnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) i gadw ei gofnodion TAW a ffeilio ei ffurflenni TAW.

Beth sydd angen i fusnesau ei wneud nawr, neu fe allen nhw wynebu cosb 

Cam 1. Dewiswch feddalwedd sy'n gydnaws ag MTD sy'n addas i'r busnes – mae rhestr o feddalwedd gan gynnwys opsiynau rhad ac am ddim, ar gael ar GOV.UK.

Cam 2. Gwiriwch ddewisiadau caniatâd y feddalwedd i ganiatáu iddi weithio gydag MTD. Ewch i GOV.UK a chwilio am 'manage permissions for tax software' i gael gwybodaeth am sut i wneud hyn.

Cam 3. Cadwch gofnodion digidol am ffurflenni TAW presennol a'r dyfodol – ceir mwy o wybodaeth am ba gofnodion y mae’n rhaid eu cadw’n ddigidol ar GOV.UK.

Cam 4. Ffeiliwch eich ffurflenni TAW yn y dyfodol yn brydlon gan ddefnyddio meddalwedd sy'n gydnaws ag MTD. Gallwch ddarganfod sut i gyflwyno eich ffurflenni TAW ar GOV.UK.

Efallai y byddwch yn derbyn cosb os na fyddwch yn ffeilio’n brydlon trwy feddalwedd gydnaws. Ar gyfer cyfnodau cyfrifo TAW sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023, cyflwynodd CThEF gosbau newydd, tecach ar gyfer ffurflenni TAW sy'n cael eu cyflwyno'n hwyr a TAW sy'n cael ei thalu'n hwyr. Mae'r ffordd y codir llog wedi newid hefyd.

Cewch fwy o wybodaeth am gosbau TAW newydd ar VAT penalties ar GOV.UK neu drwy wylio gweminarau wedi’u recordio ar gyfer busnesau. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Find software that's compatible with Making Tax Digital for VAT - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.