BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Oes gan eich busnes chi y cyfleusterau iawn ar gyfer y staff yn y gweithle?

Rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau lles ac amgylchedd gwaith sy’n iach a diogel i bawb yn y gweithle, yn cynnwys pobl ag anableddau.

Rhaid bod gennych y canlynol:

  • cyfleusterau lles - y nifer iawn o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a rhywle i orffwys a bwyta
  • amgylchedd gwaith iach - gweithle glân â thymheredd gweithio rhesymol, awyru da, goleuo addas a lle a seddau digonol
  • gweithle diogel - cyfarpar sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda, dim rhwystrau ar loriau a llwybrau traffig, a ffenestri y gellir eu hagor a’u glanhau’n hawdd

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael cyngor ar yr hyn y mae’n rhaid ei ddarparu i gael gweithle diogel ac iach.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.