BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes lletygarwch a thwristiaeth?

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd heriol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau?

Ymunwch â #CreuwyrProfiad a dewch o hyd i’ch swydd nesaf ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Mae mwy i weithio ym maes twristiaeth a lletygarwch na gweini bwyd a diod. Rydych chi hefyd yn rhan allweddol o greu eiliadau cofiadwy i westeion ac ymwelwyr.

Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch.  Mae ystod enfawr o swyddi ar gael, o weithio mewn bwytai a bariau ar y traeth, i westai pum seren a chyrchfannau ymwelwyr.

Os ydych chi’n meddwl bod swydd ym maes twristiaeth a lletygarwch yn addas i chi, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud:

  • Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau’n hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi arwyddion yn eu ffenestri
  • Galwch heibio i westai, bwytai a bariau cyfagos i gyflwyno’ch hunan a gadael CV
  • Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol

Am ragor o wybodaeth, ewch i Cymru’n Gweithio.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.