Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi lansio dau offeryn diogelwch newydd wedi'u hanelu at fusnesau bach, microfusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr sydd heb yr adnoddau i fynd i'r afael â materion seiber.
Dadorchuddiodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth – y gwasanaethau i gyd-fynd â cham diweddaraf ei hymgyrch Cyber Aware.
Gellir llenwi’r Cyber Action Plan ar-lein mewn llai na 5 munud ac mae'n arwain at gyngor wedi'i deilwra i fusnesau ar sut y gallant wella eu seiberddiogelwch.
Check your Cyber Security - mae'n hygyrch drwy'r Cynllun Gweithredu a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw sefydliad bach, gan gynnwys ysgolion ac elusennau, ac mae'n galluogi defnyddwyr nad ydynt yn dechnegol i amlygu a datrys problemau seiberddiogelwch o fewn eu busnesau.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol NCSC launches flagship new services to help millions of... - NCSC.GOV.UK