BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Offeryn Cymharu Prisiau Siopa

Chwiliwch i weld sut mae prisiau cyfartalog cannoedd o eitemau siopa yn newid.

Mae chwyddiant yn fesur o sut mae prisiau nwyddau a gwasanaethau yn newid yn y DU, a gall gael effaith fawr ar gyllid aelwydydd pobl.

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi’r cyfradd chwyddiant flynyddol ddiweddaraf, sy'n mesur y newid ym mhris eitemau a brynir yn rheolaidd (a elwir yn fasged nwyddau a gwasanaethau) o'i gymharu â'r un adeg y flwyddyn flaenorol.

Mae rhai nwyddau a gwasanaethau yn cyfrannu mwy at y gyfradd chwyddiant gyffredinol nag eraill: os yw rhai eitemau'n gweld cynnydd mawr mewn prisiau, tra bod eraill yn aros yn fwy sefydlog, yna byddai chwyddiant yn cael ei yrru gan y prisiau newid yn y categori gwariant hwnnw.

Felly, mae sut mae'r brif gyfradd chwyddiant yn effeithio ar eich cartref yn dibynnu ar ba eitemau rydych chi'n tueddu i wario eich arian arnynt.

Mae'r offeryn cymharu prisiau siopa wedi cael ei adeiladu i helpu pobl i ddeall pam y gallai eu haelwyd fod wedi profi chwyddiant.

I gael mwy o wybodaeth ac i ddefnyddio'r offeryn, cliciwch ar y ddolen ganlynol Shopping prices comparison tool - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.