BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Offeryn i roi cymorth a chefnogaeth ag ynni

Calculator and energy saving lightbulb

Mae NatWest wedi lansio offeryn i roi cymorth a chefnogaeth ag ynni (Energy Help and Support tool) i helpu busnesau yn y DU i leihau eu defnydd o ynni, lleihau eu hallyriadau carbon ac arbed arian o bosibl ar eu biliau ynni.

Mae’r datrysiad digidol newydd yn galluogi’r 5.5 miliwn o fusnesau yn y DU i adolygu effeithlonrwydd ynni eu safle, ac elwa ar argymhellion teilwredig a allai helpu lleihau eu costau ynni a’u hôl-troed carbon. Mae’r offeryn yn defnyddio cod post busnes i gynnig gwybodaeth fanwl am bopeth o baneli solar i bympiau gwres carbon isel, gan gynnwys amcangyfrif o gostau a chymorth i gyflenwyr tarddiad.

Gellir dod o hyd i’r offeryn am ddim i asesu effeithlonrwydd ynni eich busnes ac elwa ar argymhellion teilwredig yn Natwest (perse.io) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.