BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Osgoi gorweithio staff yn ystod bygythiad seibr estynedig

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi annog sefydliadau'r DU i baratoi am gyfnod estynedig o fygythiad dwysach mewn perthynas â rhyfel Rwsia-Wcráin.

Beth yw cyfnod estynedig o fygythiad dwysach?

Gall fod cyfnodau pan fydd y bygythiad seibr yn dwysau am gyfnod estynedig, er enghraifft o ganlyniad i densiynau geowleidyddol. Yn ystod y cyfnodau hyn, bydd sefydliadau'n profi: 

  • cyfnod acíwt cychwynnol (pan fydd gofyn iddynt gryfhau eu hamddiffynfeydd a mynd i'r afael â gwendidau), ac yna
  • cyfnod hirfaith (pan ddylid cynnal safle seiber cryfach i reoli'r risg gweddilliol o'r cynnydd mewn bygythiad)

Dros amser, gall y bygythiad seibr leihau eto, ond mae'n annhebygol y bydd yn dychwelyd i'r gwaelodlin blaenorol. Gallai sefydliadau gadw agweddau o’u sefyllfa gryfach ar gyfer y tymor hir i ymateb i dirwedd bygythiad sydd wedi newid. Bydd yr NCSC yn parhau i gyhoeddi canllawiau i helpu sefydliadau i asesu lefel y bygythiad seibr. 

Mae eu canllawiau newydd yn nodi wyth cam i'ch helpu i gynnal safle cryf pan fyddant dan bwysau. Mae gan y canllawiau ffocws penodol ar sut y gall lles staff fod yn gyfrannwr uniongyrchol at gynnal gwydnwch sefydliad.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Maintaining a sustainable strengthened cyber security posture - NCSC.GOV.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.