BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratoi am newidiadau ar gyfer nwyddau sy’n symud o ynys Iwerddon i Brydain Fawr

Aerial view on the channel part of Dublin near the port at autumn

Mae Model Gweithredu Targed y Ffin (Border Target Operating Model) wedi cadarnhau y bydd rhai nwyddau yn wynebu rheolaethau tollau llawn o 31 Ionawr 2024 ymlaen pan gânt eu symud yn uniongyrchol o borthladdoedd yn Iwerddon i Brydain Fawr.

Bydd angen cwblhau prosesau mewnforio a gyfer nwyddau os ydynt yn cael eu mewnforio’n uniongyrchol o Iwerddon i Brydain Fawr (yn hytrach na symud o Ogledd Iwerddon neu drwy Ogledd Iwerddon - moving from or through Northern Ireland).

Yn achos y nwyddau hyn, bydd rhaid i chi ddilyn y gofynion mewnforio a nodir ym Model Gweithredu Targed y Ffin.

Wrth symud y nwyddau hyn, bydd angen i’r rhan fwyaf o fasnachwyr wneud datganiadau tollau mewnforio yn y man lle cânt eu mewnforio, ac ni fyddant mwyach yn gallu oedi cyn gwneud datganiadau. Bydd yn ofynnol i borthladdoedd reoli’r nwyddau hyn sy’n symud o Iwerddon i Brydain Fawr, sy’n golygu na fyddant yn cael eu rhyddhau o’r porthladd oni bai eu bod wedi cael cliriad y tollau.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod chi, neu unrhyw un sy’n symud nwyddau ar eich rhan, yn gyfarwydd â’r broses newydd o 31 Ionawr 2024 ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol:

Gellir dod o hyd i gymorth pellach ar GOV.UK Imports and exports: general enquiries

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.