BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratoi ar gyfer oedi posibl yng Nghaergybi

Bydd gwrthlif dros dro yn cael ei roi yn ei le ar yr A55 rhwng cyffyrdd 2 to 4 o 28 Rhagfyr 2020 fel rhan o gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, gan barhau i ganiatáu mynediad i’r porthladd yn ogystal â chaniatáu i’r gymuned leol symud o gwmpas yn ddidrafferth.

Bydd gweithredwyr fferïau yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid sy’n cludo llwythi sy’n teithio i Iwerddon ddarparu gwybodaeth tollau gyda’u harcheb ac os ydynt yn cyrraedd heb wneud hynny, ni fyddant yn gallu cael mynediad i’r porthladd.

Bydd pob cerbyd nwyddau trwm sy’n cael eu gwrthod yn cael eu cyfeirio yn ôl i’r gwrthlif dros dro yng Nghyffordd 4 ar yr A55 lle y byddant yn ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin i naill ai mynd i’r safleoedd eraill ger Cyffordd 2 i aros tra’u bod yn paratoi’r gwaith papur, neu os nad oes unrhyw le yn y safleoedd hyn, byddant yn gorfod aros yma ond y dewis olaf un fydd hynny.

Mae trafodaethau ar y gweill i ddefnyddio Roadking fel ardal stacio ac mae gwaith eisoes yn cael ei wneud ar Blot 9 Parc Cybi fel y gellir ei ddefnyddio yn yr un modd o ganol mis Ionawr ymlaen.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Canllawiau ar Borthladd Caergybi ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE ar 1 Ionawr 2021, Porthladd Caergybi: cwestiynau cyffredin, am ragor o wybodaeth, ewch is wefan Llyw.Cymru.

Beth am ymweld â Phorth Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.