Gyda’r stryd fawr yn raddol agor mae nifer ohonom yn dechrau meddwl am ddychwelyd fesul tipyn at normalrwydd. Mae pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau diogelwch eu staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Wrth wneud hynny, rhaid i ni gofio ein bod ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog lle mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol.
Mae’r iaith Gymraeg eisoes yn amlwg ar ein stryd fawr, ysbytai a’n mannau cyhoeddus. Felly wrth i sefydliadau ail agor, rhaid sicrhau bod unrhyw arwyddion diogelwch newydd hefyd yn cadw at yr un arfer o ddwyieithrwydd sy’n cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd ac yn ddisgwyliedig gan arianwyr.
Mae Tim Hybu Comisiynydd y Gymraeg ar gael i’ch helpu chi. Dyma’r cyngor sydd yn ein canllaw ar ddylunio dwyieithog:
Arwyddion
“Dylid cofio bod gwahanu ieithoedd yn arbennig o bwysig ar arwyddion. Dylid ystyried ffont, fformat, lliw, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd. Gellid dylunio rhai arwyddion i rannu teitlau sy’n gyffredin yn y ddwy iaith. Weithiau mae pictogramau yn gweithio’n well na geiriau, os yw hynny’n briodol.”
Dyma rai ymadroddion defnyddiol -
Cymraeg |
Saesneg |
Croeso nôl |
Welcome Back |
Os gwelwch yn dda |
Please |
#cadwchynsaff |
#staysafe |
Ciw ffordd yma |
Please queue here |
Rydym ar agor |
We’re open |
Cadwch 2 fetr oddi wrth eich gilydd |
Keep a distance of 2m apart |
Talwch gyda cherdyn os yn bosibl |
Pay by card when possible |
Defnyddiwch yr hylif golchi dwylo |
Please use hand sanitiser provided |
Mae’r siop yma yn cael ei glanhau yn drylwyr yn gyson |
Thorough cleaning routines in place in this store |
Dylunio effeithiol a chywirdeb iaith
Dylai unrhyw ddylunydd neu gwmni creu arwyddion allu cynhyrchu arwyddion o safon yn ddwyieithog. Mae rhai esiamplau isod. Os hoffech unrhyw help ar ddod o hyd i ddylunydd neu gynhyrchydd arwyddion sy’n cwrdd â'ch anghenion neu os hoffech help gyda phrawfddarllen, mae croeso i chi gysylltu, Ebost: hybu@comisiynyddygymraeg.cymru
Rydym newydd ddiweddaru ein system sy'n cefnogi busnesau ac elusennau. Felly, tu hwnt i arwyddion, mae nawr yn gyfle grêt i gysylltu â ni.