Bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni yn cael ei gynnal ddydd Iau, 5 Hydref 2023. Mae ymgyrch #TickTheBox yn codi ymwybyddiaeth am beth yw Rhodd Cymorth a pha mor hanfodol yw hi i elusennau.
Gwahoddir pob elusen i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ar eich gwefan ac yn eich cylchlythyrau, yr effaith y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar y bobl a'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu.
A beth bynnag yw diben eich elusen, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn gyfle arall i ddangos y pethau anhygoel rydych chi'n eu gwneud i'ch cefnogwyr, diolch i'r rheiny sy'n #TickTheBox.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Charity Finance Group | Gift Aid Awareness (cfg.org.uk)