Peidiwch â chael eich dal gan frys gwyllt yr ŵyl – postiwch eich llythyrau a’ch parseli mewn da bryd.
Mae cyfyngiadau Covid parhaus, llai o allu cludiant o ran awyrennau a lorïau, cynnydd yn y galw ac amodau tywydd y gaeaf i gyd yn effeithio ar gludiant a darpariaeth leol ledled y byd.
Caniatewch ddigon o amser trwy bostio eitemau ac anrhegion Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol:
- Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022 – Swmp-bost Economi'r Post Brenhinol
- Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022 - 2il Ddosbarth, 2il Ddosbarth y llofnodir amdano, Royal Mail 48®
- Dydd Mercher 21 Rhagfyr 2022 – Dosbarth 1af, Dosbarth 1af y llofnodir amdano, Royal Mail 24®, Royal Mail Tracked 48®**
- Dydd Iau 22 Rhagfyr 2022 – Special Delivery Guaranteed® Royal Mail Tracked 24®**
- Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 – Special Delivery Guaranteed® with Saturday Guarantee
** Nid yw Royal Mail Tracked 24® na Royal Mail Tracked 48® ar gael yng nghanghennau’r Post Brenhinol®
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Post Brenhinol.