BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratowch ar gyfer Nadolig 2023 – Dyddiadau Postio Diweddaraf Argymelledig

Royal Mail post box and snow

Curwch ruthr y Nadolig a phostio eich holl lythyrau a pharseli ar amser.

Caniatewch ddigon o amser ar gyfer postio eitemau ac anrhegion ar gyfer y Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol:

Dyma’r dyddiadau postio hwyraf argymelledig eleni:

  • Dydd Llun, 18 Rhagfyr 2023 – 2il Ddosbarth, Signed For® 2il Ddosbarth
  • Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2023 – Dosbarth 1af, Signed For® Dosbarth 1af
  • Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2023 – Tracked 48® y Post Brenhinol **
  • Dydd Iau 21 Rhagfyr – Tracked 24® y Post Brenhinol **
  • Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023 – Special Delivery Guaranteed® (Gwarantir y caiff ei ddosbarthu ddydd Sadwrn am ffi ychwanegol)

** Nid yw Tracked 24® y Post Brenhinol a Tracked 48® y Post Brenhinol ar gael i'w prynu yng nghanghennau Swyddfa’r Post®.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Post Brenhinol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.