Nawr yw'r cyfle perffaith i wirio’r newidiadau allweddol sy'n effeithio ar y gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.
Cewch drosolwg o'r prif newidiadau drwy ymuno â gweminar byw CThEF 'Cyflogwyr – beth sy'n newydd ar gyfer 2023 i 2024', lle gallwch ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.
Ymunwch â'r gweminar byw hwn i gael trosolwg o'r cyfraddau newydd ar gyfer:
- Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
- Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Taliadau statudol
Gallwch hefyd gael gwybod am unrhyw newidiadau i dreuliau a budd-daliadau, didyniadau Benthyciadau Myfyrwyr, rhoi gwybod am gyflog ymlaen llaw, gwiriadau cyn cyflog, Treth Pecynnau Plastig, a newidiadau sy'n effeithio ar y rheiny sydd hefyd yn hunangyflogedig.
Cynhelir y gweminar ar ddyddiadau gwahanol ym mis Mawrth. I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol Registration (gotowebinar.com)