Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hystadegau rhyddhad treth ar gyfer elusennau blynyddol. Mae'r ffigyrau'n dangos, er bod swm y Rhodd Cymorth a hawliwyd wedi cynyddu i £1.6 biliwn, bod 1,310 yn llai o elusennau wedi elwa.
Mae'r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn awyddus i bob elusen gymwys wneud y gorau o'r rhyddhad treth hanfodol hwn, a lleihau faint o Rhodd Cymorth sy'n mynd heb ei hawlio bob blwyddyn – tua £560 miliwn.
Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth ddydd Iau, 3 Hydref 2024 ac anogir elusennau i gymryd rhan trwy ledaenu'r neges #TickTheBox ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn siopau elusen.
Beth bynnag yw diben eich elusen, Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yw'r diwrnod y byddwch chi'n atgoffa'ch cefnogwyr pa mor bwysig yw hi i #TickTheBox.
Y neges i bawb ar y diwrnod yw: Rydych chi’n ein helpu ni i helpu mwy fyth pan fyddwch chi'n #TickTheBox.
I baratoi ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ar gyfer eich elusen, lawrlwythwch y pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn cael:
- Asedau cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio ar y diwrnod, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
- Briff ymgyrch PowerPoint sy'n cynnwys canllawiau ac awgrymiadau.
- Testun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol: testun a negeseuon twitter allech chi eu defnyddio.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Charity Finance Group | News (cfg.org.uk)