BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Parhau â’r cymorth i ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir sydd am aros yng Nghymru

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, er mwyn parhau i ddarparu cymorth, tan 31 Mawrth 2023, i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE), yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru.

Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu pecyn o gymorth am ddim i'r dinasyddion hynny o'r UE, yr AEE a’r Swistir sy'n awyddus i aros yma. Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod y dinasyddion hynny sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn parhau i deimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau. Rydym am roi sicrwydd iddynt fod Cymru yn genedl groesawgar.

Hyd yn hyn, mae'r cymorth wedi golygu bod dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd wedi gallu manteisio ar gymorth digidol wrth wneud cais am statws preswylydd sefydlog, wedi cael help gydag ymholiadau sylfaenol ynghylch gofynion cymhwystra, wedi cael cyngor ar faterion yn ymwneud â lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle ac wedi cael cyngor arbenigol am ddim ynghylch mewnfudo.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Parhau â’r cymorth i ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir sydd am aros yng Nghymru (8 Medi 2022) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.