BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Parhau â’r cynllun i lacio cyfyngiadau covid yn raddol – Y Prif Weinidog

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr 2022, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu.

Bydd y cynllun i lacio’r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn ôl i lefel rhybudd sero yn parhau.

O ddydd Gwener 21 Ionawr 2022 ymlaen, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored.
  • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol gofynnol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
  • Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.
  • Mae’r Pàs Covid yn ofynnol ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.

Ddydd Gwener 28 Ionawr 2022, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben.
  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.

Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf Covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr 2022.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror 2022 pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl fesurau ar lefel rhybudd sero.

Darllenwch y datganiad llawn ar LLYW.Cymru a Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (21 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.